CV Cerddorol

less than 1 minute read

Dyma erthygl byr am fy mhrofiad cerddorol

Rwy wedi bod yn chwarae piano ers 2013, ac fe wnes i Gradd 1 yn 2014. Bydda i’n gwneud Gradd 6 ym mis Rhagfyr 2019

Rydw i wedi bod yn chwarae ffidil ers 2016, ac fe wnes i Gradd 5 yn Haf 2019. Fe basias gyda 113 marc

Ers 2014, rwy wedi bod yn astudio yng Ngholeg Brenhinol Cerddoriaeth a Drama Cymru (CBCDC).

Ces i ragoriaeth o 97 marc yng Ngradd 5 Elfennau Cerddoriaeth yn Haf 2019.

CBCDC Dwi’n mwynhau chwarae cerddoriaeth achos mae amseroedd yn fy mywyd yn gofiadwy gyda darnau. Er bod 70% o bobl yn tybio bod cerddoriaeth clasurol yn “ddiflas”, mae yna rhyw fath o “buzz” gyda harmoniau. Fe fydda i’n disgrifio hyn ym mhob darn

Mae chwarae offeryn hefyd yn dda i’ch ymenydd, sy’n reswm eilradd i’w wneud, ond rwy’n mwynhau e ddigon i beidio angen meddwl am hynny

Y dyfodol

Yn y dyfodol, hoffwn gyrraedd Gradd 8 piano, ffidil ac Elfennau Cerddoriaeth. Ar wahan i hynny, mae yna lawer i ddarganfod galla i wneud: dal ati i wrando i mwy o gerddoriaeth clasurol modern - er enghraifft Dmitri Shostakovich