Dmitri Shostakovich

less than 1 minute read

Roedd Shostakovich yn byw o 1906 i 1975 yn Rwsia/Yr Undeb Sofietaidd. Roedd Stalin mewn pwer o 1922 i 1952 ac fe farwodd yn 1953. Roedd yn fwy rhydd o 1953 tan ei farwolaeth (1975), ond cafodd fy hoff ddarnau ganddo eu cyfansoddi yn ystod rheolaeth Stalin. Mae e’n bolysteilydd, oedd yn eitha ceidwadol ac ddim yn dal i fyny gyda cherddoriaeth afant-gard Ewrop, ond roedd yn defnydddio elfennau Iddewol ac yn creu neges gryf yn erbyn Stalin a digwyddiadau yr Undeb Sofietaidd

Barn

Ddarganfyddais Shostakovich yn o iawn mewn fideo arbennig amdano ar YouTube:

Cyn hynny, fe chwaraeais ddarn Gradd 5 ganddo. Ar ol gweld y fideo, ddeallais i’r steil: mae Shostakovich yn defnyddio swn “amrwd” yn aml.

Dwi’n hoffi sut mae’n dyfynnu ei waith ei hun a defnyddio elfennau Iddewol i greu neges, ac fel cyfansoddwr, fyddwn wrth fy modd yn gwneud hynny fy hun