Rhagchwarae a Fiwg Rhif 15 yng G fwyaf
O’r Well Tempered Clavier, Llyfr 2
Gan JS Bach
Gwrandawiad
Y fiwg(etta)
Y son cyntaf o’r darn i mi oedd Fiwg fel darn Gradd 6
Fughetta = “Fiwg Bach” yn Eidaleg
Dyma’r fughetta o “Rhagchwarae a Fiwg yng G”, BWV 902, gwaith hollol wahanol. Dyma’r fiwg o’r llyfr:
Mae’n nhw’n debyg iawn - ystyr yr almaeneg ar waelod y fughetta yw:
Cymharwch y Fiwg yng G yn yr ail ran o’r Well Tempered Clavier
(Mae’r gwahaniaethau’n dechrau ym mar 10)
Nid wyf yn chwarae’r fughetta ar gyfer arholiad, ond rydw i wedi ei ymarfer rhywfaint.
Y rhagchwarae
Yn haf 2019, fe ddechreuais chwarae y rhagchwarae, ac fe’i fwynheuais yn syth. Oherwydd fy nghyffro, fe’i chwaraeais yn rhy gyflym, yn ceisio swnio fel recordiad Walter Giesking: https://open.spotify.com/track/4set6CzKv54MkqcxVRhFvR
Adolygiad
Fy hoff bethau yn y darn yw:
- Y bariau nes at y diwedd: cyn i’r darn orffen, mae yna 4 bar o greu tensiwn, drwy symud tuag at y cywair gorffen yn codi’n raddol mewn traw. Fel y dechrau, mae yna nodyn is sy’n newid yn mynd i lan at yr un nodyn uwch yn y ddwy law. Yma, mae’n symud o G-A-B yn y dde ac o D-E-F-G yn y chwith (pf15G TRIM) Yn fy marn i, dyma foment enfawr yn y darn.
- Diweddiadau y rhannau: mae’n ein codi i densiwn bach, yn codi’n drefnus ac yn disgyn i ffwrdd yn daclus. Yn yr hanner cyntaf, mae’n orffeniad yn perffaith o faint. Ar y diwedd, caiff ei atgyfnerthu gan y uchod, alaw gyda gwead y dechrau, ac mae’n gorffen yn is. Mae’n ddiddorol ond byr a thaclus
Ar y cyfan
Ar y cyfan, mae’n ddarn eitha anodd a chyflym, gyda harmoni pleserus a rhannau hynod o gyffrous